Ymateb i Flaenoriaethau ar gyfer Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd 

 

Ymateb yr Uned Economi Greadigol, Prifysgol Caerdydd - 28 Awst 2021

 

Ers 2015, mae'r Uned Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gwneud gwaith ymchwil, datblygu ac arloesedd i ddeall ac ymgysylltu’n well â'r diwydiannau diwylliannol a chreadigol, yn ogystal â'r economi greadigol ehangach, yng Nghymru. Mae'r Uned yn cefnogi cyfnewid gwybodaeth, rhwydweithio a chydweithio drwy'r canlynol:

 

·         Caerdydd Greadigol (2015-presennol) -  rhwydwaith creadigol dinesig gyda chymuned o fwy na 4000 o aelodau o'r diwydiannau creadigol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae'r rhwydwaith yn meithrin cysylltiadau rhwng pobl greadigol ac yn annog arloesedd ar draws sectorau a disgyblaethau. 

·         Clwstwr (2019-2023) - rhan o Raglen Clystyrau’r Diwydiannau Creadigol. Dyma’r buddsoddiad unigol mwyaf gan lywodraeth y DU yn y diwydiannau creadigol. Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, mae'r rhaglen arloesedd gwerth £10m wedi curadu ac ariannu dros 100 o brosiectau ymchwil a datblygu gyda chwmnïau o Gymru i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sectorau sgrin a chyfryngau: https://clwstwr.org.uk/cy

·         media.cymru (2022-2026) - rhaglen fuddsoddi strategol sy'n dwyn ynghyd 24 o bartneriaid cynhyrchu cyfryngau, darlledu, technoleg, prifysgol ac arweinyddiaeth leol i roi hwb mawr i ecosystem y cyfryngau. Ei phrif uchelgais yw gwneud Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau: https://www.cardiff.ac.uk/cy/creative-economy/media-cymru

 

Fel ymateb brys i bandemig COVID-19, fe wnaeth yr Uned Economi Greadigol gyfan newid ei weithgareddau, symud cyfarfodydd, digwyddiadau a galwadau cyllido ar-lein yn ogystal ag addasu'r dulliau ar gyfer gwneud ymchwil a datblygu yn y diwydiannau creadigol. Mae'r heriau sy’n gysylltiedig â’r pandemig a Brexit hefyd yn golygu bod gweithgareddau rhyngwladol, sy'n hanfodol ar gyfer cynhyrchu cyfryngau a gwaith creadigol, wedi dod yn anoddach o lawer. Mae angen cefnogaeth ar unwaith ar y sector i’w adfer yn sgil effaith negyddol COVID-19 a Brexit. Rydym wedi cyhoeddi sawl adroddiad ymchwil yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf sy'n dadansoddi'n fanylach sefyllfa'r diwydiannau creadigol yn y rhanbarth - gweler: https://clwstwr.org.uk/cy/cyhoeddiadau

 

 

Heriau'r Pwyllgor

 Mae effeithiau economaidd negyddol y pandemig wedi bod yn ddifrifol a gallai hyn gael effaith hirdymor ar economi Cymru, yn ogystal ag ar ei chystadleurwydd mewn perthynas â masnach ryngwladol:

 

·         Mae gweithgareddau’r sector celfyddydau a hamdden wedi dod i ben am y tro i raddau helaeth.[i]

·         Mae 65% o fusnesau Cymru a 94% o'r rhai yn y sector creadigol wedi colli trosiant sylweddol.[ii]

·         Mae oriau gweithwyr wedi lleihau, yn enwedig gweithwyr llawrydd, sy’n cynnwys llawer o bobl a oedd neu sy’n dal i fod yn weithgar yn y sectorau creadigol.

·         Mae’r sectorau y bu’n rhaid iddynt roi stop ar eu gwaith, sy’n cynnwys y celfyddydau a hamdden, yn cyflogi nifer fawr o weithwyr BAME, sydd wedi dioddef caledi economaidd anghymesur yn ystod ac ar ôl y pandemig.[iii]

 

 

Adeiladu ar gryfderau o’r cyfnod cyn COVID er mwyn ffynnu ar ôl COVID

Cyn y pandemig, roedd sector creadigol Cymru wedi bod yn gatalydd twf, gyda digonedd o gyfleoedd ar gyfer arloesedd a masnachu ryngwladol. Mae ein hymchwil yn dangos y canlynol, yn y cyfnod yn union cyn dechrau'r pandemig:

 

·         Roedd 8,464 o fusnesau a 40,404 o weithwyr (a 40,000 o weithwyr llawrydd ychwanegol) yn weithgar yn sector creadigol Cymru, gan gynhyrchu trosiant gros o £3.5 biliwn.[iv]

·         Cyfrannodd sector y cyfryngau yn unig £406 miliwn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd[v]. O ganlyniad, cynhyrchodd y sectorau creadigol gyfran anghymesur o uchel o Gynnyrch Domestig Gros Cymru o gymharu â'u maint.

·         Roedd y sectorau creadigol yn cynnal 3000 o weithwyr amser llawn eraill yn lleol mewn ystod o segmentau busnes eraill, gan gynnwys masnach manwerthu a chyfanwerthu, cynhyrchu bwyd, gwasanaethau cyfreithiol, ac ati.

·         Mae cyfran o gwmnïau creadigol Cymru yn gweithredu yn ardaloedd gwledig gogledd a chanolbarth Cymru. Mae tua 9000 o weithwyr yn gweithio mewn 2000 o gwmnïau[vi] yn yr ardaloedd hyn sy'n cynhyrchu tuag un rhan o chwech o gyfanswm trosiant y sector.

·         Mae un o bob wyth o swyddi newydd yn yr is-sector clyweledol yn y DU wedi cael ei chreu yng nghyffiniau Caerdydd. O holl ranbarthau’r DU, sector clyweledol Caerdydd wnaeth dyfu gyflymaf o ran trosiant fesul gweithiwr rhwng 2010 a 2018.[vii]

·         Cafodd llawer o hyn ei ysgogi gan y sector sgrin, a gynhyrchodd allbwn a fasnachwyd ac a ddarlledwyd  yn rhyngwladol, gan greu eiddo deallusol fel hawlfreintiau. Yn ogystal â gwaith artistig a ddiogelir fel Eiddo Deallusol, mae gan gwmnïau creadigol yng Nghymru gryn botensial o ran arloesedd ac ymchwil a datblygu - mae 81% ohonynt yn dilyn prosiectau arloesol, gyda 34% o gyfanswm y llwyth gwaith wedi'i neilltuo iddo.[viii]

 

Mae ymchwiliadau diweddar yn dangos bod busnesau creadigol bellach yn wynebu cythrwfl sylweddol gyda 94% o’r holl weithwyr llawrydd creadigol yn dweud eu bod wedi colli trosiant sylweddol iawn yn ystod y pandemig a 60% yn dweud bod eu gwaith wedi dod i ben yn gyfan gwbl.[ix]  Yn y cyfamser, mae 55% o fusnesau creadigol yn poeni am eu hallforion, cadw eu cwsmeriaid tramor, a mynd ar drywydd mentrau cydweithredol rhyngwladol.[x]  Mae hyn yn awgrymu bod y sector yn fregus iawn, er bod momentwm sylweddol ynddo.

 

 

Blaenoriaethau Strategol ar gyfer Pwyllgor y Senedd

 

Rydym yn annog y Pwyllgor i ystyried y canlynol er mwyn cynnal a thyfu'r sectorau creadigol yng Nghymru:

 

·         Sicrhau cydnabyddiaeth o gyfraniad y diwydiannau creadigol i economi Cymru a'r angen am atebion wedi'u teilwra i gefnogi'r diwydiant.

·         Ystyried a ddylid blaenoriaethu cyllid pwrpasol ar gyfer arloesedd busnesau bach ar gyfer y sector hwn.

·         Annog gwaith amserol i gasglu data ar gyfer y sectorau creadigol, er mwyn helpu i gyflawni gwelliannau ystyrlon ym mherfformiad economaidd busnesau creadigol. Mae diffyg data ar gael ar y gweithlu hunangyflogedig a llawrydd yn y sector cyfryngau a sgrin.

·         Ymchwilio i gefnogaeth ar gyfer arweinyddiaeth busnesau bach fel ffordd allan o'r argyfwng economaidd a achoswyd gan y pandemig.

·         Ymchwilio i'r potensial ar gyfer grant neu gynllun benthyciad di-log ar gyfer busnesau bach sy'n arloesi gyda'r nod penodol o hyrwyddo cynhwysiant, tegwch a chynaliadwyedd.

·         Edrych ar fesurau i fynd i'r afael â’r diffyg strategaeth integredig a chynhwysol ar gyfer sgiliau at y dyfodol. Dylai arloesedd a digidol fod yn ganolog i strategaeth sgiliau sgrin sy'n hygyrch ac yn gynhwysol. Gyda chwmnïau cynhyrchu yn mynegi pryderon ynghylch prinder llafur yn 2021, gallai rhoi mwy o sylw i swyddi neu gynyddu mynediad atynt leihau’r pwysau ar y farchnad lafur. Gallai'r Llywodraeth hefyd ddefnyddio'r momentwm a grëwyd o ganlyniad i gynnig ar-lein darparwyr hyfforddiant i ddylunio cynllun hyfforddiant unigryw ac amrywiol, gan gynnig mynediad hawdd at adnoddau.

·         Archwilio ffyrdd o gefnogi gweithwyr llawrydd ledled Cymru o ran datblygu sgiliau yn barhaus. Bydd datblygu sgiliau yn hanfodol yn y cyfnod sydd i ddod, wrth i gystadleuaeth yn y diwydiant gynyddu, ac wrth i’r galw am sgiliau trawsddisgyblaethol, digidol a meddal dyfu.

·         Cefnogi gallu’r sector i weithredu’n rhyngwladol ac arloesi, sy'n hollbwysig ar gyfer ei wydnwch yn y tymor hir. Mae angen rhaglen fwy systematig o gynlluniau cyllido sy'n blaenoriaethu cydweithredu trawsddisgyblaethol a rhyngwladol, a dylid gwneud hyn mewn cydweithrediad â chyrff rhyngwladol eraill.

·         Sicrhau bod arian ar gael ar gyfer rhaglenni prentisiaeth mewn busnesau bach a chanolig creadigol er mwyn cynnal cyflenwad sgiliau parhaus a chadarn.

 

 

Cyfeirnodau



[i]Sefydliad Bevan: Where next for the Welsh economy? Mai 2020, ar gael ar-lein yn https://www.bevanfoundation.org/wp-content/uploads/2020/05/Economy-Briefing-Final.pdf

 

[ii] Swyddfa Ystadegau Gwladol: Coronavirus and the economic impacts on the UK. 18 Mehefin 2020, https://www.ons.gov.uk/businessindustryandtrade/business/businessservices/bulletins/coronavirusandtheeconomicimpactsontheuk/18june2020

 

[iii] Llywodraeth Cymru: Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad ar nodweddion gwarchodedig, 19 Mehefin 2020, https://llyw.cymru/coronafeirws-a-chyflogaeth-dadansoddiad-ar-nodweddion-gwarchodedig-html

 

[iv] Gweler Atlas Economi Greadigol Cymru a Komorowski, Marlen a Lewis, Justin. (2020). CYNLLUN CYMHORTHDAL INCWM HUNANGYFLOGAETH COVID-19: SUT FYDD HYN YN HELPU GWEITHWYR LLAWRYDD Y DIWYDIANNAU CREADIGOL YNG NGHYMRU? 10.13140/RG.2.2.13868.49287. ar gyfer data ar weithwyr llawrydd.

 

[v] Fodor, MM, Komorowski, M. a Lewis, J. (2021). Adroddiad Clwstwr ar y diwydiannau creadigol rhif 2 – SECTOR Y CYFRYNGAU YM MHRIFDDINAS-RANBARTH CAERDYDD: GYRRU TWF ECONOMAIDD DRWY WEITHGAREDDAU CLYWELEDOL Cyfres cyhoeddiadau Clwstwr, Caerdydd, Clwstwr, t. 11.

 

[vi] Mae hyn yn cyfateb i oddeutu un rhan o bump o'r holl weithwyr yn sectorau creadigol Cymru. Ffynhonnell: Atlas Economi Greadigol Cymru

 

[vii] Fodor, MM, Komorowski, M. a Lewis, J. (2021). Adroddiad Clwstwr ar y diwydiannau creadigol rhif 2 – SECTOR Y CYFRYNGAU YM MHRIFDDINAS-RANBARTH CAERDYDD: GYRRU TWF ECONOMAIDD DRWY WEITHGAREDDAU CLYWELEDOL Cyfres cyhoeddiadau Clwstwr, Caerdydd, Clwstwr, t. 17.

 

[viii] Arolwg Gwaelodlin Clwstwr, 2020 (data o 2019).

 

[ix] Komorowski, Marlen a Lewis, Justin. (2020). CYNLLUN CYMHORTHDAL INCWM HUNANGYFLOGAETH COVID-19: SUT FYDD HYN YN HELPU GWEITHWYR LLAWRYDD Y DIWYDIANNAU CREADIGOL YNG NGHYMRU? 10.13140/RG.2.2.13868.49287. ar gyfer data ar weithwyr llawrydd. tt. 1-2.

 

[x] Komorowski, M. a Lewis, J. (2020). Briff polisi Clwstwr rhif 1 – effaith (bosibl) Brexit ar fusnesau creadigol: goblygiadau ar gyfer polisïau a busnesau yng Nghymru. Cyfres cyhoeddiadau Clwstwr, Caerdydd, Clwstwr t. 11.